Euogrwydd pechod oedd yn bwn,
A mi dan hwn yn trengu;
Duw a'm rhyddh'odd,
pwy'm damnia mwy?
I'r Iesu 'rwi yn credu.
Pur waed ei galon ddaeth yn llif,
Tros fy aneirif feiau;
Im cannu'n wyn fel lliain main,
Oddi wrth bob stain a brychau.
Fe ddofodd llid cyfiawnder llym,
'Does gantho ddim i'w wneuthur;
Mae'r gwaed yn gwaeddi hedd yn daer,
Trwy'r nef a'r ddae'r yn eglur.
Ni all Satan, deddf, na gweddill bai,
I ddamnio rhai crediniol;
Mae gwaed yr Oen ag uchel lef,
O fewn i'r nef yn eiriol.
Mi wna'm gorphwysfa dawel byth,
Iesu'n dy ddilyth glwyfau;
Bellach fy ngobaith fydd a'm ple,
'Th fod yn fy lle'n diodde'.
William Williams 1717-91Aleluia 1749 Tôn [MS 8787]: Irish (<1811)
gwelir: Crist yn Sancteiddrwydd Pa ham y digalonnai mwy Crist yn Brynedigaeth O Iesu fy Ngwaredwr llawn Mi wna'm gorphwysfa dawel byth O Fugail Israel dwg fi 'mlaen Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm |
The guilt of sin was a burden,
And under it I was perishing;
'Twas God who freed me,
henceforth who shall condemn me?
In Jesus I am believing.
The pure blood of his heart became a flood,
For my innumerable faults;
To bleach me white like fine linen,
From every stain and spot.
It tamed the wrath of keen righteousness,
It has no more to do to it;
The blood is shouting peace earnestly,
Throughout heaven and the earth clearly.
Not Satan, law, nor residue of fault, can
Condemn believing ones;
The Lamb's blood with a loud cry, is
Within heaven interceding.
I shall make my quiet resting place forever,
Jesus, in thy unfailing wounds;
Henceforth my hope and my plea shall be,
That thou wast suffering in my place.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|